English

Sefydlwyd Cariad Cards dan yr enw Cardiau Ty’n-y-Coed yn 1996, i ddylunio a chynhyrchu cardiau cyfarch a gwahoddiadau ar gyfer pob achlysur. Ein harbenigedd yw cynhyrchu cardiau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog.

Rydym bob amser yn barod i helpu, gan ddibynnu ar ein profiad o gynhyrchu cardiau priodas a chyfarch at ddant ein cwsmeriaid unigol. Gallwn gynnig dewis helaeth o ffurfdeipiau, lliwiau a dyluniadau a gwnawn ein gorau i gyflawni unrhyw geisiadau arbennig sydd gennych. Dalier sylw: Coedwigoedd cynaliadwy a reolir yw ffynhonell ein papur a'n carbord i gyd.

Ffoniwch neu e-bostiwch am fwy o wybodaeth a samplau. Efallai yr hoffech chi drefnu i alw heibio i weld yr amrywiaeth sydd gennym ac i siarad â’n dylunydd.

 

 

Amdanom ni

Cariad Cards 15 Hendre Hywel, Pentraeth, Ynys Môn LL75 8UN

Ffôn 01248 450298 • E-bost info@cariadcards.co.uk