English



Gallwn greu deunydd eich priodas â boglynwaith aur neu arian ar gerdyn gwyn neu hufen golau, gyda dalen fewnol ac amlen sy’n cydweddu.

Mae gwead y clymau Celtaidd yn symbol o gariad diddiwedd a dyma ychydig yn unig o’r patrymau niferus a gynigir – rhai Celtaidd, rhai addurnol, a rhai â phatrwm blodau.

Ceir dewis o dri math o lythrennu boglynnog a gellir creu’r ddalen fewnol i gyfateb i’ch dewis.

Trwy ddefnyddio ffurfdeip Celtaidd hardd gallwn hefyd gynhyrchu cardiau sydd â llythrennau cyntaf eich enwau mewn boglynwaith addurnol aur neu arian arnynt.

Cliciwch ar y cardiau unigol i weld llun mwy.

 

Cardiau priodas

Y casgliad boglynnog

Casgliad Redouté

Cariad Cards 15 Hendre Hywel, Pentraeth, Ynys Môn LL75 8UN

Ffôn 01248 450298 • E-bost info@cariadcards.co.uk