English

Cardiau cyfarch, gwahoddiadau priodas, cardiau ar gyfer pob achlysur – crefftwaith llaw, pob un yn hardd.

Mae ein hystod unigryw o ddeunydd ar gyfer priodas yn cynnwys cyfresi cydlynol o wahoddiadau, taflenni trefn gwasanaeth, cardiau ateb, cardiau bwrdd bwyta, bwydlenni a chardiau diolch.  Gallwn hefyd gynnwys llun o’ch priodas ar y cardiau diolch.

Ein harbenigedd yw cynhyrchu deunydd a chardiau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog wedi’u haddurno â phatrymau Celtaidd neu flodeuog.  Rydym hefyd yn cynhyrchu dyluniadau personol, arbennig – dewch atom â’ch syniadau a chyda’n gilydd cawn greu achlysur perffaith ac unigryw.

 

Cariad Cards 15 Hendre Hywel, Pentraeth, Ynys Môn LL75 8UN

Ffôn 01248 450298 • Symudol 07979 526729 • E-bost info@cariad-cards.co.uk